Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Llangynog slate quarries, report
Hughes, Robert (Manager, Aberllefenni Slate Quarry)
Adroddiad byr - tebyg i astudiaeth dichonoldeb - yn asesu addasrwydd Chwarel Llangynog (chwarel lechi tanddaearol) ar gyfer buddsoddiad ariannol pellach. Lluniwyd yr adroddiad gan Mr Robert Hughes, rheolwr Chwarel Aberllefenni. Roedd Mr Robert Hughes yn rheolwr Chwarel Aberllefenni rhwng 1853 a 1873 (o bosibl am gyfnod hirach - gwyddwn ei fod bendant wedi ymddeol erbyn 1881). Mae’r adroddiad yn cynnwys testun a diagramau, ac yn darparu gwybodaeth am wythïen y llechfaen, agorydd y gwythiennau, a lleoliad y rheilffordd agosaf (West Shropshire Mineral Railway). Mae’n debyg bod yr adroddiad wedi ei llunio yn ystod y 1860/70au. Lleolir Chwarel Llangynog o ddeutu 8 milltir o Lanfyllin, a 18 milltir o Groesoswallt.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.