Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Tirlun Creigiog Coediog gyda Chariadon Gwledig, Bugail a Gwartheg
"Y darlun hwn yw un o'r tirluniau harddaf a mwyaf grymus a beintiwyd gan Gainsborough yn ystod ei flynyddoedd olaf yng Nghaerfaddon. Mae'n cyfuno gwartheg gwladaidd, cariadon delfrydol, a thirlun euraidd yn y pellter. Mae'r cyfansoddiad yn ymwybodol Glawdaidd, a'r ymdriniaeth yn eofn, gyda slabiau o impasto yn yr awyr. Credir iddo gael ei beintio yn Shockerwick Manor, cartref y cludwr ffyniannus o Gaerfaddon, Walter Wiltshire (c. l719 - l799).
Roedd Gainsborough yn ymwelydd cyson a defnyddiai wasanaeth 'flying waggon' cyson Wiltshire i gludo ei beintiadau i Lundain i'w harddangos.
Rhoddodd Gainsborough y gwaith hwn i Wiltshire, ynghyd â 'Y Wagen Fedi', pan adawodd Gaerfaddon a mynd i Lundain ym 1774. Mae'r llun hwnnw yn dyddio o 1767, ac mae'n ymddangos bod 'Tirlun Creigiog Coediog gyda Chariadon Gwledig, Bugail a Gwartheg' wedi ei beintio fel cymar iddo, naill ai ym 1771, neu yn fuan cyn i'r arlunydd adael am Lundain. Gwerthwyd y ddau lun gan John Wiltshire ym 1867. Arhosodd y ddau gyda'i gilydd hyd 1946, pan aeth 'Y Wagen Fedi' i Sefydliad Barber, Birmingham, ac y prynwyd 'Tirlun Creigiog Coediog gyda Chariadon Gwledig, Bugail a Gwartheg' gan y perchennog papur newydd Arglwydd Camrose."
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.