Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Baton and stand
Y baton gwreiddiol a ddefnyddiwyd yn seremoni agoriadol Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym 1958. Cludwyd y baton o Balas Buckingham i Barc yr Arfau cyn dechrau'r cystadlu gan gyfres o redwyr, ac ynddo roedd neges gan y Frenhines Elisabeth II yn dymuno pob lwc i'r athletwyr. Fe'i cyflwynwyd i'r Tywysog Philip yn y seremoni agoriadol gan y rhedwr olaf; y chwaraewr rygbi a'r athletwr Ken Jones.