Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Turbo-alternator from Hatfield Colliery
Yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg sylweddolodd dyfeiswyr a pheirianwyr bod yr injan stêm draddodiadol yn cyrraedd pen eithaf ei datblygaid. Un dewis oedd llosgi tanwydd y tu mewn i’r injan yn hytrach na’r tu allan mewn pair – dull a arweiniodd at esblygaid yr injan nwy. Y datblygaid arall oedd y tyrbin stêm a ddyfeisiwyd gan Charles Parsons yn 1884. Yn y tyrbin ager mae’r stêm yn dod i mewn i’r injan ar wasgedd uchel, o ffroenellau ac yn taro cyfres o lafnau wedi eu gosod ar ffurf disgiau sy’n cylchdroi. Bu’r ddyfais yn llwyddiannus iawn ac fe gymerodd le’r injan ager draddodiadol ar gyfer gyrru generaduron trydanol mewn pwerdai. Adeiladwyd yr enghraifft hon gyda’i chywasgydd yn 1925 a bu’n gweithio yng Ngwaith Glo Hatfield, Swydd Efrog, hyd 1974. Er ei bod yn llai o faint na’r tyrbinau ager a ddefnyddir heddiw, mae hi’n nodweddiadol o’r rhai a welir ym mhob pwerdy modern, p’un ai glo, olew, nwy neu ynni niwcliar a ddefnyddir. (Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984).