Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Chair
Dyma gadair Eisteddfod Treorci, 1928. Roedd Cymru yn y flwyddyn honno mewn cyfnod o ddirwasgiad enbyd. Ymwelodd y Prif Weinidog, Stanley Baldwin, â'r Eisteddfod yn Nhreorci gan ddatgan ei edmygedd at y bobl leol am drefnu'r ŵyl yn wyneb y fath galedi. Efallai mai'r tlodi hwn oedd y rheswm i Gymry Blackstone, Queensland, Awstralia gyflwyno'r gadair yn rhodd i'r Eisteddfod y flwyddyn honno.Yn debyg i Dreorci, yr oedd Blackstone yn ardal lofaol. Credir mai saer y gadair oedd Evan Morris Jones, un o griw o ymfudwyr yn hanu o Dal-y-bont, Ceredigion. Er gwaethaf eu hymdrechion, ni enillodd neb gadair 1928. Y bardd ifanc, Gwenallt, oedd wedi cyfansoddi awdl orau y gystadleuaeth, ond nid oedd ei chynnwys wrth fodd y beirniaid. Roedd y gerdd yn ymdrin â nwydau rhywiol, ac fe'i gelwid yn 'bentwr o aflendid' gan y beirniad, John Morris-Jones.