Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Astudiaeth ar gyfer Hunan-bortread
BACON, Francis (1909-)
Francis Bacon yw'r prif arlunydd ffigyrol ym Mhrydain ers y Rhyfel. Portreadau o'i gyfeillion neu ef ei hun yn erbyn gwahanol gefndiroedd mewnol yw ei destunnau ar y cyfan. Cafodd ei gyflyru gan Swrealaeth ac mae ei arddull ddigyfaddawd yn manteisio ar botensial mynegiannol lluniau portread ac yn gymharol ddi-hid o'u gwerth fel dull o gynrychioli. Yma mae'r ffigwr sy'n eistedd fel pe bai ar goll yn erbyn y cefndir gwastad.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.