Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Ffynnon, fersiwn fach
Mae'r paentiad hwn yn un o gyfres a wnaeth Sutherland ar thema ffynhonnau a dŵr sy'n rhedeg yng nghanol y 1960au. Mae'r ffynnon yn nodweddiadol o ardal Menton, ond mae wedi'i hail-osod yng nghanol llawer o ddail, gan greu awyrgylch rhyfedd. Mae'r dail du a gwyrdd yn erbyn cefndir glas tywyll yn creu patrwm cryf, graffig. Mae hyn yn atgoffa rhywun o gynlluniau Sutherland ar gyfer tecstilau a thapestrïau ac o waith Henri Matisse yr oedd Sutherland yn ei edmygu'n fawr.