Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Slate
Llechen wedi ei harsgrifio / llofnodi gan aelodau o gymuned ardal Blaenau Ffestiniog. Mae’r llechen yn perthyn i gasgliad o dair llechen.
Roedd y casgliad llechi yn eiddo i Margaret Davies a symudodd i Flaenau Ffestiniog o ardal Birkenhead fel ‘ifaciwî’ yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Daeth ‘ifaciwîs’ i ardal Blaenau Ffestiniog ar drên, ac mae adroddiadau lleol yn cofnodi bod y band pres lleol, Band yr Oakeley (band yn gysylltiedig â’r diwydiant llechi), wedi eu croesawu i’r orsaf. Cychwynnwyd y don gyntaf o wacad (evacuation) yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar y 1 Medi 1939, ac mae’r llechen yma yn dyddio o’r cyfnod yma. Mae’r casgliad llechi wedi eu dyddio 8 Medi 1939 - diwrnod pen-blwydd Margaret Davies yn 15eg oed. Credir bod y llechi yn gofnod o’r diwrnod pen-blwydd. Yn ôl teulu Margaret Davies dim ond dau atgof o’i chyfnod fel ifaciwî oedd hi’n drafod:- 1)y ffaith ei bod ddim yn hoffi nionod gan mai nionyn wedi ei ferwi a gynigwyd iddi fel pryd cyntaf gan ei ‘theulu newydd’ ar ôl diwrnod hir o deithio (enghraifft o ‘swper chwarel’; 2) bod ganddi beth dealltwriaeth o’r iaith Gymraeg gan fod ei ‘theulu newydd’ yn rhugl yn y Gymraeg.