Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Di-deitl. O'r gyfres 'I am about to call it a day'
Wedi'i ysgrifennu ar gefn y gwaith yma mae: "Drwy ofyn i bobl dw i’n cyfarfod â nhw ar y stryd ar ddamwain i dreulio'r noson yn eu cartref, dw i'n aml yn mynd i mewn at agosatrwydd bywydau pobl. Dw i'n hoffi tynnu llun o'r foment pan mae'r nos yn disgyn a phobl yn dychwelyd i'w cartrefi, yn cau eu drysau a rhoi eu dillad nos amdanynt. Rhwng dau ddiwrnod, pan nad oes neb yn edrych, mae yna foment fach lle mae'r ffasâd yn disgyn.
Dw i'n ei chael hi'n anodd iawn dewis fy 'ffotograff personol' mwyaf, oherwydd fe brofais gymaint ohonyn nhw. Roedd pobl yn aml yn rhannu eu gwely gyda mi; syrthiais i gysgu tra roedd plant a mamau yn fy nal i'n dynn, mewn gwely sengl wrth ymyl hen fenyw o Fecsico a weddïodd dros fy nheulu yng nghanol y nos. Gwahoddodd pobl fi i’r sawna yn Rwsia ac i mewn i’r twba poeth yn America a phan ges i groeso gan hen gwpl yn Bosnia, bu farw’r penteulu y noson honno.
Ond ar ôl ystyried, hoffwn rannu llun gyda chi sy'n rhan o fy llyfr ‘I am about to call it a day'. Wrth fod gyda'n gilydd yn ystafell wely ..... ac ar ôl tynnu lluniau ohoni, sylweddolais rywbeth pwysig. Mae ffotograffiaeth yn ymwneud â rhannu, mae'n sgwrs sy'n mynd dwy ffordd. Nid fi yn unig oedd yn ei gwylio, ond trwof fi, roedd hi'n edrych arni hi ei hun. Ar ôl amser hir gyda'n gilydd yn ei hystafell wely ac ar ôl tynnu'r llun hwn, safodd y ddynes i fyny yn ei gŵn nos gwyn, gan grio'n ddwys; rhoddodd cwtsh hir i mi ac aeth i gysgu." — Bieke Depoorter