Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Doll
Gwisg: cap, ffedog, betgwn, sgert, pais, chemise, hances, sanau, esgidiau, siòl, coler. Corff: Pen ac ysgwyddau o gŵyr a ffabrig. Y corff, y breichiau a’r coesau wedi’u stwffio â defnydd anhysbys, blawd llif neu wellt mwy na thebyg. Lledr pinc yw’r dwylo. Gwallt llwyd yn sownd i’r cap ffabrig. Babi: Mae’n bosibl taw dol gyda rhif derbynodi 34.306.12 yw’r babi sy’n perthyn i’r ddol hon. Het: dim Cap: rhwyd gyda border les
Sylwadau cyffredinol: Border o dâp coch ar gefn y gŵn
Hanes: Eiddo Mrs Robert Owen (1799-1852), Maeres y Drenewydd 1847-48 a mam-gu y rhoddwr. Yn ôl y rhoddwr dyma oedd dol ei mam-gu pan yn blentyn, oddeutu 1809. Mae hefyd yn honni iddi gael ei harddangos yn un o arddangosfeydd Paris yn y 1890au, “ddeugain mlynedd yn ôl”.