Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Dish
"Delwedd o brydferthwch delfrydol yw’r portread hwn o fenyw ffasiynol â’i gwallt mewn snood, wedi’i seilio mwy na thebyg ar ddarluniau gweithdy dan ddylanwad artistiaid lleol megis Pintoricchio (m 1513) a Perugino (m 1523). Piatto da pompa neu ddysgl arddangos gyffredin yw hon o Deruta yn Umbria, tref grochenwaith fechan, ond pwysig oedd yn arbenigo mewn addurn gwydriad euraid arbennig ar grochenwaith wedi’i baentio’n las.
Mewn Eidaleg ar y sgrôl mae’r geiriau TU SOLA SE CHOLEI CHE POIE AITARME (‘ti yw’r unig un all fy helpu’). Awgryma’r datganiad anobeithiol yma taw anrheg priodas oedd y ddysgl, efallai’n un o bâr gyda’r llall yn dangos y priodfab. Mae’n bosibl bod y llinell yn dod o gerdd, soned gan Petrarch efallai, ond nid oes unrhyw ffynhonnell wedi cael ei chanfod."
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.