Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Astudiaeth ar gyfer y Tebot Brown
Un o bedair fersiwn o'r un cyfansoddiad o tua 1915-16. Ma'e blaendir heb ei beintio, y tir canol wedi ei orffen yn rhannol a'r cefndir bron wedi orffen. Mae hyn yn dangos techneg ddiweddarach gan yr arlunydd:yn gyntaf byddai'n gosod is-haen denau, yna'n blocio'r prif batrymau'n fras ac yn olaf yn gweithio'r wyneb â haenau brws o baent sych. Gan weithio'n drefnus ar nifer o luniau bron yn union yr un fath, byddai'n gorffen hanner y llun tra byddai rhannau eraill heb eu dechrau bron.