Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad clyweledol / Audio-visual recording: Dave Jackson
“Roeddwn i’n gwisgo het, siwt, a chrys a thei. Gan fy mod i’n hogyn mawr – roeddwn i’n gwisgo trowsus hir! Ond dim cot na dim byd, chwaith.”
Ganed Dave Jackson yn Jamaica yn y 1950au. Fe’i magwyd gan ei fodryb, a oedd yn cadw cyfrifon, a’i ewythr a oedd yn saer coed.
“Pan ddaeth fy nhad yma, ar ôl y rhyfel pan roedd Prydain yn adfer ac ailgodi, roedden nhw angen pobl i helpu, gyrwyr bysiau a phob math [o waith]... daeth fy modryb gyntaf, gyda’r pedair geneth, felly mi fues i’n byw gyda nain a ’nhaid yn Jamaica... fe ddois i yma tair blynedd yn ddiweddarach. Roeddwn i wrth fy modd!”
Daeth Dave Jackson i Brydain ar ei basbort Prydeinig ei hun yn ddeuddeg mlwydd oed. Aeth ei chwaer i’w gwrdd yn Heathrow, ac yna teithiodd y ddau yn syth i Gaerdydd.
“Rwy’n cofio un bachgen a phedair chwaer, ac roedden nhw’n iau na fi, roeddwn i yn ysgol y bechgyn hŷn, felly dyma glywed yr holl enwau, coon, wog, doeddwn i erioed wedi clywed yr enwau hynny o’r blaen, yn Jamaica dydyn ni ddim yn gweld lliw, felly welwch chi mo hynny.”
“Yn yr hen ddyddiau, mi fuasai pobl Dduon yn prynu tŷ, ac mi fuasai llond y tŷ, a phawb yn cynilo eu harian i gyd. Doedden nhw ddim yn hoffi tai cyngor, gan nad oedd mo’r fath beth yn Jamaica. Roedden nhw wir wedi dod yma i wella’u hunain.”