Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Certificate of British registry for SEA ALARM
Mae'r Sea Alarm yn nodweddiadol o'r nifer o dynfadau stêm a weithiai ym mhorthladdoedd De Cymru ac a deithiai yn ôl ac ymlaen ar Fôr Hafren. Yn wir, mae'r tynfadau a ddefnyddir heddiw yn ddigon tebyg yn eu hanfod, ar wahân i'r ffaith taw diesel yn hytrach na stêm sy'n eu gyrru. Mae ei simnai gul, uchel yn awgrymu ei fod yn hen fad, ond nid yw hynny'n wir oherwydd yn 1941 y cafodd ei adeiladu. Fe'i wnaed gan John Crown a'i Feibion o Sunderland ar gyfer y Weinyddiaeth Ryfel ac fe'i fedyddiwyd yn Empire Ash. Yn 1946 fe'i brynwyd gan y Clyde Shipping Company ac arhosodd ar afon Clyde dan enw newydd — y Flying Fulmar. Prynwyd y tynfad ddeng mlynedd yn ddiweddarach gan C.J. King o Fryste a'r adeg honno y cafodd ei alw'n Sea Alarm. Arhosodd ym Môr- Hafren gan gario glo yn Y Barri nes i'r Amgueddfa ei brynu pan ddaeth ei ddyddiau gwaith i ben yn 1973. Injan stêm dri-thrawiad sydd i'r tynfad. O'i chymharu â maint y tynfad ei hun mae'n ymddangos yn injan fawr, ond rhaid cofio bod gofyn i'r tynfad symud llongau oedd yn pwyso i fyny at 10,000 o dunelli gros, er nad yw'n pwyso ond rhyw 260 o dunelli gros ei hun. Erbyn hyn mae'r math hwn o injan, sy'n nodweddiadol o'r rhai a yrrai'r rhan fwyaf o longau'r byd am yn agos i hanner canrif, wedi diflannu'n gyfan gwbl.
Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984
SEA ALARM. Built in 1941. Constructed by John Crown and Sons of Sunderland for the Ministry of War Transport, and christened EMPIRE ASH, she was acquired by the Clyde Shipping Company in 1946 and remained on the Clyde under a new name, the FLYING FULMAR. Ten years later she was bought by C.J. King of Bristol and became the SEA ALARM. She remained in the Bristol Channel, coaling regularly at Barry, until she was acquired by the National Museum of Wales in 1973 at the end of her working life.