Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Y Wawr
Toriad gwawr wedi'r rhyfel. Saif ffigwr benywaidd llawn emosiwn mewn byd o lanast, trallod a marwolaeth. Yn llechu y tu ôl iddi mae Marwolaeth wrth i gorff arall gael ei gludo i gae sydd eisoes yn orlawn o feddi. Ac eto, mae llewyrch cyntaf y wawr yn torri drwy'r digalondid. Ceir gobaith i'r dyfodol yn y plentyn bychan sy'n adeiladu â cherrig yr adfail.
Brodor o Ddinbych-y-pysgod oedd Augustus John, ac astudiodd yn Ysgol Gelf Slade rhwng 1894 a 1898. Cyn iddo raddio, cai ei gydnabod yn un o ddarlunwyr mwyaf dawnus ei genhedlaeth. Erbyn y 1920au, ef oedd artist portreadau mwyaf blaenllaw ei ddydd a cafodd ei ethol i'r Academi Frenhinol ym 1928. Bu'n byw bywyd yr artist bohemaidd i'r eithaf, diolch yn rhannol i'w ddiddordeb yn niwylliant y Romani.
Mae'r gwaith hwn yn rhan o bortffolio'The Great War: Britain's Efforts and Ideals,' gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli'r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a'u hannog i ymroi i'r Frwydr.