Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Aneurin Bevan (1897-1960)
Bu Lambda yn astudio yn Budapest, dinas ei eni, yn Fienna a Pharis cyn dod i Brydain ym 1938. Castiwyd y gwaith efydd hwn ym 1973 o blastr a wnaed ychydig cyn Etholiad Cyffredinol 1945 (Llundain, Oriel Bortreadau Genedlaethol). Cyn-lIöwr o Dredegar oedd Aneurin Bevan (1897-1960) a etholwyd yn A.S dros Lynebwy ym 1929. Ef oedd y gweinidog dros iechyd a thai ym 1945-51, ac felly yn un o sylfaenwyr y Wladwriaeth Les. Roedd yn siaradwr ymosodol gwych ac yn un o wleidyddion mwyaf ei ddydd.