Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Durga'n lladd Mahishasur
Yma mae’r dduwies ryfelwr Durga yn trechu Mahishasura, yr Ellyll Byffalo oedd hefyd yn gallu cymryd sawl ffurf arall gan gynnwys ffurf ddynol. Mae ganddi arfau penodol y duwiau ym mhob un o’i deg llaw ac mae’n marchogaeth llew.
Math o gelf werin yw Kalighat, wedi'i ysbrydoli gan Pattachiras sy'n gyffredin yn Bengal ac India ers mileniwm a mwy. Mae'r ddau arddull yn cynnwys hyfforddi artistiaid amatur, ac aelodau'r teulu yn aml, er mwyn cydweithio ar waith celf.
Daw'r gair Kalighat o Deml Kalighat ar lan Afon BuriGanga, a'r farchnad o'r un enw sydd yn ganolfan fasnach bwysig yn Nwyrain India ers canrifoedd. Celf hanesyddol fyddai'r arddull yn ei ddangos yn wreiddiol, ond esblygodd dros amser yn 'baentio genre' yn dangos diwylliant Babu dechrau'r cyfnod trefedigaethol yn Bengal. Dyma lle gwelwn ni ddatblygiadau cyfochrog diddorol rhwng celf y Gorllewin a Kalighat.
Er bod y themâu a'r straeon mewn paentiadau Kalighat wedi esblygu, mae'r arddull wedi aros yn gyson.
Cafodd y testun yma ei ysgrifennu gan Kiran Cymru.