Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Tollhouse
Codwyd y tolldy hwn ar gyrion deheuol Aberystwyth ym 1771 pan oedd boneddigion lleol yn dechrau adeiladu ffyrdd preifat neu ffyrdd tyrpeg a chodi tollau am eu defnyddio. Codwyd yr adeilad a'i gatiau am £40, bron bedair gwaith cost codi bwthyn clom to gwellt fel Nant Wallter. Fe'i codwyd o lechfaen lleol a'i doi â llechi o Sir Benfro. David Jones o Ddihewyd oedd ceidwad cyntaf y tollborth. Cafodd ei benodi ym mis Tachwedd 1771 a dechreuwyd codi tollau ar 23 Mawrth 1772.
Un ystafell sydd yn yr adeilad ac roedd un pen yn cael ei ddefnyddio i gasglu tollau. Roedd lle tân ym mhen arall yr ystafell yn ei gwresogi ac yn cael ei ddefnyddio i goginio. Dodrefnwyd y tŷ yn null 1843, sef cyfnod Terfysgoedd Beca pan ddinistriwyd llawer o dollbyrth. Roedd pobl mewn ardaloedd gwledig yn gwarafun gorfod talu i deithio ar hyd y ffyrdd a chafwyd terfysgoedd yn erbyn y tollbyrth. O ganlyniad i hynny, diddymwyd y rhan fwyaf o'r cwmnïau tyrpeg ym 1864 a daeth y cynghorau sir yn gyfrifol am adeiladu a chynnal y ffyrdd.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.