Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Sarah Waters
Ganed yr awdur Sarah Waters yn Neyland, Sir Benfro. Gwnaeth enw iddi hi ei hun gyda'i nofelau clodwiw, Tipping the Velvet (1998), Affinity (1999) a Fingersmith (2002), sy'n portreadu bywyd ac antur lesbiaid yn Oes Fictoria. Dylanwadir ar ei nofelau gan ei thraethawd doethuriaeth ar ffuglen hanesyddol lesbiaidd a hoyw. Mae Waters wedi ennill llu o anrhydeddau, gan gynnwys Awdur y Flwyddyn yng Ngwobrau Llyfrau Prydain 2003. Mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Man Booker dair gwaith, ac fe'i hetholwyd yn Gymrawd o'r Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol yn 2009. Ganed Ric Bower yn Llundain ac mae bellach yn byw ac yn gweithio yng ngorllewin Cymru. Astudiodd Celf Gain ym Manceinion, ac yn 2005 enillodd radd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Ffotograffiaeth o Goleg Sir Gâr. Ymhlith ei arddangosfeydd blaenorol mae sioe unigol yn 2001 yn Oriel Emrys yn Hwlffordd. Yn baentiwr portreadau sefydledig, yn fwy diweddar mae wedi bod yn ymwneud ag arfer ffotograffig, a chyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr Portreadau Ffotograffig Schweppes 2005. Mae proses ffotograffig Bower wedi’i dylanwadu’n helaeth gan baentiadau hanesyddol, gan ddefnyddio lliw cyfoethog a symbolaeth i greu amgylchedd llawn gwefr, fel sydd i’w weld yn ei bortread o Sarah Waters.