Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Aileni’r Celfyddydau
O ddistryw a difodiant rhyfel, gwelwn ferch adeiniog - Celfyddydau - yn codi â sbrigyn o ddeilen lawryf yn ei llaw, symbol gogoniant. Dros y dinistr, torra enfys sydd, o bosibl, yn symbol o obaith.
Er bod Shannon, brodor o Quarrington, Swydd Lincoln, yn fwyaf adnabyddus am ei bortreadau a'i ffigyrau, bu'n gweithio fel lithograffydd a darlunydd hefyd. Ym 1882 dechreuodd astudio engrafu coed yn Ysgol Gelf Lambeth lle cyfarfu ei gydweithiwr oes Charles Ricketts, ac aeth y ddau ati i sefydlu a golygu cylchgrawn 'The Dial' a gwasg Vale gyda'i gilydd. Daeth ei yrfa lwyddiannus i ben ym 1929, wedi iddo ddioddef anafiadau yn disgyn o ben ysgol.
Mae'r gwaith hwn yn rhan o bortffolio 'The Great War: Britain's Efforts and Ideals,' gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli'r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a'u hannog i ymroi i'r Frwydr.