Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad sain / Audio recording: Everton Smith
“Rwy’n fodlon gyda fy mhroffesiwn, fy mod i’n gallu gwneud gwahaniaeth, wyddoch chi, rwyf wedi bod ers blynyddoedd.”
Ganed Everton Smith yn Chwefror 1962 yn ysbyty St Woolos. Tyfodd i fyny yn Pill a symudodd i Gaer Vale yn haf 1973, yn fuan wedi marwolaeth ei dad a’i ben-blwydd yn un mlwydd ar ddeg.
“Fe’m ganed yn Pill, tyfais i fyny yn Pill... roedden ni’n byw yn 12 Lewis Street ar y pryd, dyw’r fan honno ddim yn sefyll bellach.”
“Mae fy mam yn Gristion ffyddlon a chaeth, felly yn amlwg, roedden ni’n mynd i’r eglwys bob dydd Sul, ddwywaith yn y bore ac yna gyda’r nos...”
“Pan ddois i ar draws heriau ac amgylchiadau, roeddwn i’n gallu bod ychydig yn gryfach, oherwydd y fagwraeth honno, felly er nad oeddwn i’n ei werthfawrogi ar y pryd, fe oeddwn i yn nes ymlaen.”
“Yn gyffredinol, roedd yna lawer o wahaniaethu, llawer o ragfarn...”
“Mae gen i fusnes, Newport City Martial Arts. Fe ddechreuais i wneu crefft ymladd pan roeddwn i’n ddwy ar bymtheg oed, felly rwy’ wedi bod wrthi ers tua deugain mlynedd...”
“Rwy’n dysgu datblygiad personol, law yn llaw â ffitrwydd a chrefft ymladd.”
“Daeth fy rhieni yma heb fawr ddim... mewn dwy flynedd, fi fydd piau’r adeilad yna yn y dref, felly mae’n dipyn o gamp... mae’n debyg mai fi yw un o’r bob gyntaf o India’r Gorllewin i fod yn berchen adeilad yng nghanol y dref, felly rwy’n eithaf balch o hynny.”
“I’r dynion hŷn o India’r Gorllewin, unwaith yr wythnos maen nhw’n cael dod i fy nghampfa ac rwy’n gallu dysgu ychydig o tai chi iddyn nhw, neu hyd yn oed ychydig ar ystum corff da...”
“Pe bawn wedi fy ngeni yn Lloegr, fuaswn i ddim wedi cyflawni cymaint â hyn.”