Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Cyflyru
Mae paentiadau Caroline Walker yn canolbwyntio ar bynciau benywaidd o safbwynt benywaidd, gan wyrdroi syniad hanesyddol byd celf o'r olwg wrywaidd. Mae ei phrif gymeriadau yn fenywod wrth eu gwaith, wrth iddi archwilio eu llafur sy'n aml yn gudd o fewn lleoliadau domestig neu broffesiynol. Yn Cyflyru, mae'r gwyliwr wedi'i leoli y tu allan i ffenest fawr siop trin gwallt, gan edrych i mewn i arsylwi moment dawel a phersonol rhwng y ddwy fenyw y tu mewn wrth i un baratoi i dorri gwallt y llall. Mae'r paentiad yn cyfleu tawelwch yr eiliadau bob dydd y byddwn ni prin yn meddwl amdanynt, tra hefyd yn dathlu'r math o rolau gwasanaethu sy'n cael eu cyflawni gan fenywod yn bennaf.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.