Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Mai (Omai), Sir Joseph Banks and Daniel Solander
Mae'r darlun ymddiddan hwn yn portreadu'r brodor o Tahiti, Mai (Omai), gyda Joseph Banks, a ddaeth yn Llywydd ar y Gymdeithas Frenhinol, a Daniel Solander, y botanegydd o Sweden a Cheidwad Hanes Natur yr Amgueddfa Brydeinig. Banks a Solander oedd naturiaethwyr blaenllaw'r cyfnod a aeth yn gwmni i'r Capten Cook ar ei daith arwrol gyntaf i Dde'r Môr Tawel ym 1768. Roedd Mai wedi teithio i Loegr ym 1773 ar long Capten Tobias Furneaux, yr 'Adventure', ar ôl dod i adnabod y criw. Rhoddwyd Mai i ofal Banks a Solander oherwydd eu bod wedi astudio ieithoedd a diwylliant Tahiti yn ystod eu taith i'r Môr Tawel. Daeth y dyn o Tahiti yn dipyn o seren ar y llwyfan gymdeithasol yn gyflym, wrth giniawa yn y Gymdeithas Frenhinol a chael ei gyflwyno i'r Brenin Siôr III. Tra bod Solander wedi ei bortreadu yn eistedd wrth ddesg, mae Banks yn y canol, yn sefyll, ac yn ystumio tuag at Mai, sydd mewn gwisg llaes gwyn. Mae Parry wedi dal naws gydweithredol ymchwil ddeallusol a gwyddonol y cyfnod yn y gwaith. Roedd yr artist yn ddisgybl i Syr Joshua Reynolds, ac mae ei ddylanwad yn amlwg yma. Mae'n bosibl y cafodd Parry'r cyfle i beintio Mai drwy ei feistr, am i Reynolds bortreadu'r dyn o Tahiti hefyd. Peintiodd Parry y portread grŵp hwn ar ôl iddo ddychwelyd o'r Eidal ym 1775.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.