Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
George Thomas Clark (1809-1898)
George Thomas Clark (1809-1898) oedd un o fawrion y diwydiant haearn yng Nghymru Oes Fictoria. Dechreuodd ei yrfa fel peiriannydd rheilffyrdd, ac ym 1850, priododd Anne Price Lewis, un o ddisgynyddion partneriaid gwreiddiol gwaith haearn Dowlais. Clark oedd ysgutor ac ymddiriedolwr meistr haearn Dowlais, Syr John Josiah Guest, pan fu farw ym 1852, ac ef oedd yn bennaf cyfrifol am reoli’r cwmni wedyn gyda chefnogaeth Charlotte, gweddw Guest. Cafodd y cwmni ail wynt, diolch i reolaeth ariannol ofalus, ailfuddsoddi ac arloesi sylweddol.
Roedd gan Clark ddiddordeb brwd mewn hen bethau. Ysgrifennodd yn doreithiog am gestyll a hanes lleol hefyd. Ym 1865, prynodd blasty Tal-y-garn, ddwy filltir i’r de o Lantrisant. Cyfrannodd at y gwaith o ehangu ac addurno’r tŷ – yn seiliedig ar ei gynlluniau ei hun, gyda chymorth crefftwyr Eidalaidd tan gamp – hyd weddill ei oes. Cynhyrchodd Joseph Edwards, cerflunydd o Ferthyr Tudful, sawl portread o fawrion Cymru Oes Fictoria.