Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Nurse's apron
Ffedog gotwm wen wedi'i gwnïo â pheiriant, gyda bib a sgert lydan. Crëwyd y sgert o dri darn o ffabrig wedi'u crychdynnu wrth y wasg. Mae'r bib siâp 'v' yn cynnwys strapiau ysgwydd sy'n cau gyda botymau wrth y canol. Mae croes goch gotwm wedi'i phwytho ar y tu blaen. Gwisgwyd gan Elizabeth Radcliffe o Sain Ffagan, tra'n gweithio fel nyrs yn Ysbyty VAD y Groes Goch Sain Ffagan.
Roedd Elizabeth Radcliffe yn nyrs wirfoddol yn ysbyty’r Groes Goch yn Sain Ffagan. Agorwyd yr ysbyty ar dir Castell Sain Ffagan ym 1916. Trigolion lleol oedd y rhan fwyaf o’r nyrsys. Yn eu plith oedd rhai o forynion Iarll ac Iarlles Plymouth, perchnogion y castell. Cyn y rhyfel, roedd Elizabeth yn gweithio fel nyrs fagu i deulu cefnog yng Nghaerdydd. Bu farw tri o’i brodyr ar faes y gad.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.