Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Dynamo
Cafodd ei hadeiladu, fwy na thebyg, gan Alexander a’i Gwmni o Gasnewydd yn 1865 a’i hail-adeiladu gan Baker a’i Gwmni yng ngwaith yr Albion, East Moors, Caerdydd yn 1895. Defnyddid rhai fel hon mewn gweithfeydd peirianyddol, melinau llif, gweithfeydd brics, chwareli, ffermydd ac ym mhob man bron lle roedd angen gyrru peiriannau. Mae iddi adeiladwaith syml ac fe ellid symud yr injan yn rhwydd i fannau eraill os byddai angen. Er bod y barrau haearn a’r bandiau pres o gwmpas y silindr yn ymddangos yn addurniadol roedd iddyn nhw eu swyddogaeth: mae pren yn dda am gadw gwres i mewn ac fe ellid cyflawni unrhyw waith atgyweirio neu newidiadau ar fyrder. (Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984).
Floating crane barge.