Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad clyweledol / Audio-visual recording: Sean Wharton
“Roedd yn broses naturiol; dyma o ble daw’r teulu, a dyma ni.”
“Roedd fy rhieni yn gwpl... y ddau blentyn hŷn... ganed dau ohonyn nhw yn St Kitts, a ganed y tri arall ohonom ni yma.”
“Fe dyfais i fyny’n gwybod bod angen ichi weithio’n galed i gael yr hyn a ddymunwch, roedd fy nau riant yn gweithio’n llawn amser, a fy chwaer hŷn yn edrych ar fy ôl... weithiau, fel bod fy rhieni’n gallu gweithio. Doedden ni ddim wir eisiau unrhyw beth, ond doedden ni ddim yn gofyn am ddim byd, roedd gennym ni’r hyn roedd ei angen arnom ac roedd hynny’n iawn.”
“Roeddwn i allan drwy’r adeg, rêl plentyn... rwy’n credu mai pan roeddwn i yn yr ysgol gynradd y sylweddolais i fy mod i’n dda am wneud chwaraeon... pob math o chwaraeon... ac roedd hynny bron yn ddigon i mi gael... fy nerbyn gan bobl...”
“Mae’n rhethreg mai dim ond os ydych chi’n dda am wneud chwaraeon cewch chi’ch derbyn fel Prydeiniwr.” “Fi oedd y chwaraewr Du cyntaf i chwarae i dîm Bechgyn Ysgolion Cymru yn 14 mlwydd oed... a fi oedd y chwaraewr Du cyntaf i chwarae i Sunderland.”
“Fe es i yn fy mlaen i chwarae i Gymru tua 14 o weithiau, ac yn y flwyddyn honno fe sgoriais yn erbyn Lloegr yn Gillingham, ac roeddwn i’n profi hiliaeth yn ystod y cyfnod hwnnw. Yn Iwerddon, roedd pobl yn poeri arnaf i, a doedd o ddim yn gyfnod da, roedd yn brofiad llawn ansicrwydd a doeddwn i ddim yn hollol siŵr beth oedd yn digwydd. Ifanc oeddwn i, a dim ond chwarae pêl-droed oeddwn i eisiau.”
“Mae gen i deimlad cryf o berthyn i’r Caribî a theimlad cryf o berthyn i Gymru ar yr un pryd.” “Rwy’n credu na ddylen ni fethu gwerthfawrogi’r gwaith caled wnaeth ein hynafiaid er mwyn i ni gael gwneud yr hyn a wnawn heddiw... mae’n allweddol nad ydyn nhw’n anghofio’r etifeddiaeth a greodd fy rhieni.”