Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Medieval wooden fish basket
Basged bysgota helyg a phren collen. Cafodd ei chreu i’w gwisgo dros yr ysgwydd wrth bysgota ar aber afon Hafren. Dyddiad tua 1281-1436.
Mae’r fasged bysgod hon dros 600 mlwydd oed. Prin iawn yw’r basgedi sydd wedi goroesi hyd heddiw. Cafwyd hyd iddi gyda basgedi eraill a thrapiau pysgod ger Sudbrook yn aber afon Hafren. Cafodd gwiail helyg eu plethu i greu’r fasged, a darn o bren wedi’i lifio yw’r gwaelod. Nid yw basgedi’n cael eu defnyddio i ddal pysgod yn yr aber bellach.
SC4.1
Pwnc
Rhif yr Eitem
Gwybodaeth am y darganfyddiad
Enw'r Safle: Severn Crossing, Monmouthshire
Nodiadau: from archaeological work in the intertidal zone carried out in 1991 by S. Godbold for CADW in advance of construction work for the Second Severn Crossing