Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Chair
Yr oedd eisteddfodauyn ddigwyddiadau diwylliannol pwysig yng nghymunedau diwydiannol glo a llechi ar ddiwedd y 1800au. Un o’r rhain oedd eisteddfod boblogaidd Chwarelwyr Cwmorthin, Rhosydd, Wrysgan a Chonglog a gynhaliwyd ym Mlaenau Ffestiniog. Un o'r prif gystadleuthau oedd y canu corawl. Yn Eisteddfod Cwmorthin 1880, cadair oedd y wobr ar gyfer y gystadleuaeth corau. Cyflwynwyd i Cadwaladr Roberts, arweinydd Côr y Moelwyn. Yn wahanol i lawer o gadeiriau barddol o’r cyfnod, mae’n ymddangos yn gadair gyfforddus gyda chlustogwaith o ledr. Yr oedd yn dilyn arddull ffasiynol antique a oedd yn ysgafnach ei golwg na dodrefn arferol o ganol cyfnod Fictoria.
Pwnc
Bywyd Gwerin
Rhif yr Eitem
F81.211.1
Derbyniad
Donation
Mesuriadau
Uchder (cm): 112
Lled (cm): 56
Dyfnder (cm): 53
Deunydd
oak
leather
Lleoliad
In store
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.