Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Cardiff boatman's boat
Cwch badwr Caerdydd. Arweiniodd twf cyflym porthladd Caerdydd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif, a'r nifer cynyddol o longau a ddefnyddiai'r porthladd yn ystod y blynyddoedd hynny, at yr angen i fadwyr drin a thrafod rhaffau angori llongau dieithr wrth iddyn nhw lanio neu gael eu tynnu gan dynfadau. Yng Nghaerdydd, byddai'r badwyr yn gweithio mewn dau grwp penodol, y badwyr 'allanol' a weithiai y tu allan i'r dociau yn helpu i drin a thrafod rhaffau angori wrth i'r llongau gyrraedd y dociau, a'r badwyr 'mewnol' a ymdriniai a'r rhaffau angori o fewn y dociau eu hunain, gan helpu'r llongau lanio yn eu hangorfeydd penodol. Er na wyddys na dyddiad na lleoliad adeiladau'r cwch 'mewnol' hwn, mae'n debygol ei fod yn hannu o hen iard gychod William Diamond ar Ddoc Dwyrain Bute.