Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad sain / Audio recording: Hesketh James Boston
“Y sôn oedd fod digon o waith yng Nghymru, oherwydd y pyllau glo ac ati, wyddoch chi.”
Ganed Hesketh Boston ar ynys Dominica, a daeth i Brydain i chwilio am waith. Roedd cyfleoedd cynnar am swyddi yn cynnwys gweithio fel mowldiwr peirianyddol a pheintiwr diwydiannol.
“Roedd bywyd yn braf, ar ynys Dominica, roedd yn braf...”
“Ond y peth cyntaf maen nhw’n ddweud yw “rhaid iti barchu dy hynafiaid”... does dim eisiau iti aros iddyn nhw ofyn iti, os gweli di fod rhywbeth o’i le, rhaid iti ei ddatrys.”
“Ar yr ynysoedd, does dim llawer o waith... dim gwaith na dim, ond mae pawb yn cyd-dynnu rywsut, achos fod tir gan y bobl, roedden nhw’n tyfu eu bwyd eu hunain ac yn gwerthu beth bynnag [oedd dros ben] a dyna sut roedd hi ar yr ynys.”
Yn 1960, yn 19 mlwydd oed, daeth o Ddominica i Brydain ar ei ben ei hun ar gwch. Daeth i Preston ac yn nes ymlaen i Gymru ar ôl clywed fod gwaith ar gael.
“Allech chi ddim dweud pa fath o waith i obeithio amdano, nes roeddech chi’n cyrraedd... pan ddaethon ni yma... yn y 60au roedd digonedd o waith, fe allech chi ddechrau mewn gwaith heddiw, ac os nad oeddech chi’n ei hoffi, fe allech chi gael swydd drws nesaf o fewn dwyawr... a chyflog bach oedd i’w gael yn y dyddiau hynny, ond fe dyfodd gyda’r economi.”
“Ie, fel dinasyddion Prydain ddaethom ni yma... fe ddois i yma yn teimlo’n Brydeinig ac ar ôl cyfnod, gwnaed imi deimlo fel nad oeddwn i’n Brydeinig, roedden ni wedi dod i beth roedden nhw’n ei galw’n Famwlad...”
“Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn i’r genhedlaeth iau glywed y straeon hyn, iddyn nhw gael gwybod beth ddigwyddodd yn yr adeg honno...”