Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad sain / Audio recording: Angela Nation Barnes
“Roeddwn i’n mwynhau cwmni fy nheulu... wrth gwrs, roedd yna adegau garw ac anodd ...”
(1956 – 2020) Ganed Angela Barnes yn Kingston, Jamaica, yn 1956. Fe gyrhaeddodd ddociau Southampton gyda’i thad yn 13 mlwydd oed yn 1971.
“Fe gefais fy magu yn yr eglwys i fynychu’r ysgol Sul... fe wnaeth hynny les i mi, roedd yn hadyn da a blannwyd yn fy mywyd.”
“Fy uchelgais i’r dyfodol [oedd] i fod yn stenograffydd.”
“Roedd yn sioc ddiwylliannol i mi. Rwy’n cofio’r pryd cyntaf o bastai stêc a ’lwlod... a meddyliais, ‘O, mae hwn yn eithaf blasus’.”
“Roedd fy nhad yn berchennog caffi yn Stryd Bute, [o’r enw] Nations Café, Arferai [pobl] ddod draw a chwarae dominos yno... roedd fy nhad yn lletygar iawn [roedd yno] cymuned braf a chyfeillgar.”
“Rwy’n cofio cymaint a ddysgais i gartref... roeddwn i’n rhan o’r gymuned oherwydd fy nghoginio, yn creu fy rysetiau fy hun... roeddwn i’n arfer coginio pan roedden ni’n [mynd i’r] blues, twmplins wedi’u ffrio a physgod hallt, ond rwyf wedi coginio reis a phys a chyw iâr ac yn y blaen... roeddwn i’n angerddol dros goginio...”
“Yn nes ymlaen yn y 70au, fe ddois i’n ail yn Miss Butetown yn y bae. [Pan] roeddwn i’n feichiog... roeddwn i’n dal i fynd ar amrywiaeth o gyrsiau... ac o’r fan honno wnes i ddatblygu yn y gymuned...”
“Rwyf wedi cael gwobr gan yr Uchel Siryf hefyd.”
“Profiad anuniongyrchol o hiliaeth gefais i... roedden nhw am fy nghadw’n ynysig... rwy’n maddau iddyn nhw oherwydd... rwy’n byw nawr fel Cristion, ac rwy’n gallu maddau, ac rwyf i wedi gwneud camgymeriadau, felly mae bodau dynol...”
“Rwy’n byw yma ers tro byd, felly rwy’ wedi dod i arfer â bywyd a dinasyddiaeth Brydeinig, ond rwy’n hiraethu am fy nghartref o hyd. Fe hoffwn yn fawr pe gallwn fynd adref bob blwyddyn... Yn fy nghalon, Jamaicaidd wyf fi.”