Plannu tatws - Casgliadau Arlein | Museum Wales
Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Gweld ein Polisi Cwcis
Gosodiadau

Gosodiadau Cwcis

Angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.

 

Cwcis sy'n mesur defnydd y wefan

Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.

 

Cwcis sy'n helpu gyda chyfathrebu a marchnata

Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.

 
 
Gweld ein Polisi Cwcis
Lleoliadau +
Amgueddfa Cymru
English
Fy nghyfrif
Casgliadau ac Ymchwil
Adrannau Casgliadau Arlein Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol

Teulu
Amgueddfa
Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Adrannau
  • Casgliadau Arlein
  • Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol
  • Erthyglau
  • Cymru Hynafol
  • Celf
  • Celf ar y Cyd
  • Hanes
  • Hanes Naturiol
  • Yr Amgueddfa ar Waith
  • Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru

Chwilio Uwch

Chwilio Uwch

Image filter options
Nôl i Ganlyniadau

Plannu tatws

O 1917 ymlaen, roedd suddo llongau masnach yn effeithio ar gyflenwadau bwyd Prydain, felly daeth ffermio gartref yn bwysicach fyth i les y wlad. Yma, mae dynion a menywod wrthi'n plannu tatws. Sefydlwyd Byddin Dir y Menywod ym 1917 er mwyn helpu menywod i lenwi swyddi'r dynion a oedd wedi gadael am y rhyfel.

Ar 15 Mai 1917, ysgrifennodd Rothenstein at Ernest Jackson, "I hope to have the 5th drawing finished early this weekand the last next week. I will then come up to town and do what isneedful to the stones". Nid oedd yn hapus gyda rhai o'i weithiau cynnar, gan ddweud fod y llinellau'n ymddangos yn fain a phur symol. Penderfynodd argraffu rhai mewn lliw browngoch yn hytrach na du. Mae'r gweithiau hyn yn syml a chynnil, ac yn wrthgyferbyniad i holl ddwndwr a moderniaeth rhyfel a welir yn llawer o brintiau eraill y gyfres. Mae'r printiau hyn yn dwyn i gof ddelweddau o lafurwyr gwledig a oedd yn gyffredin iawn mewn tirluniau ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mwy na thebyg iddynt gael eu darlunio yn ardal Stroud, Swydd Gaerloyw, lle'r oedd Rothenstein yn byw.

Ganed Rothenstein yn Bradford i deulu Almaenig-Iddewig. Dysgodd ei grefft yn Ysgol Gelf Slade, Llundain a'r Académie Julian, Paris. Yn ogystal â chael ei benodi'n artist rhyfel swyddogol Byddin Prydain ym 1917-1918, bu'n artist i fyddin Canada ym 1919. Ef oedd Pennaeth y Coleg Celf Brenhinol rhwng 1920 a 1935, ac fe'i urddwyd yn farchog ym 1931.

Mae'r gwaith hwn yn rhan o bortffolio 'The Great War: Britain's Efforts and Ideals', gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 i ysbrydoli'r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a'u hannog i ymroi i'r Frwydr.

Plannu tatws
Delwedd: Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
 Chwyddo

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 13197

Mesuriadau

h(cm) sheet size:41
h(cm)
w(cm) sheet size:51.5
w(cm)
h(cm) image size:35.8
h(cm)
w(cm) image size:46.3
w(cm)

Categorïau

Gweithiau ar bapur Celf Gain Bywyd cyfoes Tirwedd Amaethyddiaeth Ôl 1900 Rhyfel Byd Cyntaf, y Rhyfel Mawr
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Eitemau cysylltiedig

Celf

Children play football in spare land in front of East Moors steel works at the time that the steel works were closed. Cardiff, Wales

NMW A 56241
Mwy am yr eitem hon
Celf

Untitled

NMW A 10853
Mwy am yr eitem hon
Celf

Untitled

NMW A 10858
Mwy am yr eitem hon
Celf

Cliffside Penarth

NMW A 10839
Mwy am yr eitem hon

Map o'r Wefan

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Ymweld
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Blog
  • Ein Cefnogi
  • Siop
  • Llogi Cyfleusterau

Ein Hamgueddfeydd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymunwch â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Cymryd Rhan
  • Tanysgrifio i'n Cylchlythyr
  • Facebook
  • Instagram

Corfforaethol

  • Amdanom ni
  • Swyddi
  • Swyddfa'r Wasg
  • Llyfrgell Luniau
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol
  • Gweithio gydag eraill
  • Datganiad hygyrchedd
  • Cwcis
  • Hawlfraint
Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Facebook
  • Instagram
Rhif Elusen 525774
× ❮ ❯