Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
O Ffenestr yn 45 Brook Street, Llundain W.1
Ar ôl aros yn hir yn Ffrainc a theithio'n helaeth, sefydlodd Morris enw iddo'i hun gyda dwy arddangosfa yn Llundain ym 1924 a 1926. Ym 1926 daeth yn aelod o'r Gymdeithas Saith a Phump, ar ôl cael ei gynnig gan Winifred a Ben Nicholson. Mae'r olygfa eithriadol uniongyrchol ond syml hon ar draws toeon yn ein hatgoffa o'r pynciau cyffredin a hoffid gan Grŵp Camden Town. Cafodd ei beintio o ystafell wely'r gogyddes yng nghartref cyfaill Morris, Paul Odo Cross.