Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Bysys
Ganed Allen Jones yn Southampton i rieni o Gymry, a bu'n astudio yn Hornsey a'r Coleg Brenhinol. Meddai: 'Yn fy ngwaith i gyd rwyf wedi bod yn chwarae â dyfeisiau i gyfleu symudiad. Yn hwn mae cyfres o osod lliwiau gyda'i gilydd yn gadael i'r llygad symud yn araf ar draws y cynfas. Mae'n debyg i dagfeydd traffig yn Llundain, lle mae pawb yn y bôn yn symud i'r un cyfeiriad ond bod y cyfan rywsut neu'i gilydd yn symud yn ôl ac ymlaen am eu bod i gyd yn symud ar gyflymdra gwahanol ac ar adegau gwahanol'.