Gweithiwr Anhysbys i Crawshay - Casgliadau Arlein | Museum Wales
Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Gweld ein Polisi Cwcis
Gosodiadau

Gosodiadau Cwcis

Angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.

 

Cwcis sy'n mesur defnydd y wefan

Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.

 

Cwcis sy'n helpu gyda chyfathrebu a marchnata

Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.

 
 
Gweld ein Polisi Cwcis
Lleoliadau +
Amgueddfa Cymru
English
Fy nghyfrif
Casgliadau ac Ymchwil
Adrannau Casgliadau Arlein Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol

Teulu
Amgueddfa
Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Adrannau
  • Casgliadau Arlein
  • Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol
  • Erthyglau
  • Cymru Hynafol
  • Celf
  • Celf ar y Cyd
  • Hanes
  • Hanes Naturiol
  • Yr Amgueddfa ar Waith
  • Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru

Chwilio Uwch

Chwilio Uwch

Image filter options
Nôl i Ganlyniadau

Gweithiwr Anhysbys i Crawshay

Un llun yw hwn o grŵp o bortreadau a gomisiynwyd gan y diwydiannwr Francis Crawshay yn y 1830au. Mae pob un o’r gweithwyr – dynion i gyd – yn grefftwyr a gwŷr di-grefft o weithfeydd dur Hirwaun a gweithfeydd tunplat Trefforest. Peth anghyffredin oedd i un o gewri diwydiant gomisiynu portreadau unigol o’i weithwyr, ond nid diwydiannwr cyffredin oedd Francis Crawshay. Adeiladodd fwthyn bychan i’w hun yn hytrach na byw ym mhlasty’r teulu, a doedd dim diddordeb ganddo yn arferion busnes y Crawshays: cwynai ei dad ei fod yn gwario arian fel y dŵr. Ef oedd unig siaradwr Cymraeg y teulu, a byddai’n fwy tebygol i chi ei weld yn rhannu sgwrs gyda’i weithwyr nag yn eu gorchymyn. Enw hoffus y gweithwyr amdano oedd ‘Mr Frank’. Ddechrau’r 1830au cymerodd Francis yr awennau yng Gweithfeydd Dur Hirwaun, a brynwyd gan ei dad ym 1819, a’r gweithfeydd tunplat newydd yn Nhrefforest. Comisiynwyd portreadau’r gweithwyr oddeutu 1835, ac maent wedi’u priodoli i’r artist teithiol W J Chapman. Arhosodd y set ym meddiant y teulu Crawshay drwy ewyllys, ac mae’n bosib bod mwy yn wreiddiol – mae cofnod o un arall sydd bellach ar goll i bob tebyg

Gweithiwr Anhysbys i Crawshay
Delwedd: Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
 Chwyddo

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 29947

Mesuriadau

Uchder (cm): 36.3
Lled (cm): 25.6
h(cm) frame:44.3
h(cm)
w(cm) frame:33.8
w(cm)
d(cm) frame:2.5
d(cm)

Categorïau

Paentiad Celf Gain Celf ar y Cyd (100 Artworks) DIWYDIANT A GWAITH Cysylltiad Cymreig Portread dienw, Portread di-enw Gwaith haearn CADP content
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Eitemau cysylltiedig

Celf

Fifties cultural meeting place. The Partisan Coffee-Bar in Soho London. Meeting place of the left wing activists of the period. People in the street outside gaze through the large plate glass window at friends inside. London, England

NMW A 57482
Mwy am yr eitem hon
Celf

Fish and chip shop. Kimmel Bay, Wales

NMW A 55856
Mwy am yr eitem hon
Celf

Tips, Rhymney

NMW A 19806
Mwy am yr eitem hon
Celf

Tyrone O'Sullivan

NMW A 56345
Mwy am yr eitem hon

Map o'r Wefan

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Ymweld
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Blog
  • Ein Cefnogi
  • Siop
  • Llogi Cyfleusterau

Ein Hamgueddfeydd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymunwch â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Cymryd Rhan
  • Tanysgrifio i'n Cylchlythyr
  • Facebook
  • Instagram

Corfforaethol

  • Amdanom ni
  • Swyddi
  • Swyddfa'r Wasg
  • Llyfrgell Luniau
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol
  • Gweithio gydag eraill
  • Datganiad hygyrchedd
  • Cwcis
  • Hawlfraint
Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Facebook
  • Instagram
Rhif Elusen 525774
× ❮ ❯