Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Buddugoliaeth Democratiaeth
Democratiaeth yw'r fenyw mewn gwyn newydd ei rhyddhau o'i chadwyni, tra bo Gormes - y milwr Almaenig yn plygu dan gywilydd - mewn cyffion. Caiff Gobaith, ar ffurf baban, ei ddychwelyd i freichiau Democratiaeth, ei fam, gan un o filwyr y cynghreiriaid.
Bu Rothenstein yn gweithio fel paentiwr, lithograffydd, darlunydd ac awdur. Fe'i ganwyd yn Bradford, ac aeth ymlaen i astudio yn Ysgol Gelf Slade, Llundain a'r Académie Julian, Paris. O 1891 ymlaen, dechreuodd artistiaid fel Degas a Pissaro gymryd diddordeb yn ei waith. Cafodd ei benodi'n artist rhyfel swyddogol i fyddin Prydain yn Ffrainc rhwng 1917 a 1918, ac i fyddin feddiannol Canada ym 1919. Fe'i urddwyd yn farchog ym 1931.
Mae'r gwaith hwn yn rhan o bortffolio 'The Great War: Britain's Efforts and Ideals,' gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli'r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a'u hannog i ymroi i'r Frwydr.