Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad clyweledol / Audio-visual recording: Errol Alexis
“Morwr oedd fy nhad, porthladd morwyr oedd Caerdydd... weithiau doedden ni ddim yn ei weld am flwyddyn. Roedd e yn y Llynges Fasnachol yn y 50au.”
Ganed Errol Alexis yn India’r Gorllewin, ar ynys St Vincent, a fu gynt yn un o drefedigaethau Prydain, yn 1936. Anfonodd tad Errol amdano i ddod i Brydain yn 1957, pan roedd tua 21 mlwydd oed.
“Roeddwn i eisiau bod yn focsiwr, o bob dim…”
“[In yr ysgol] roedden ni’n cael gwasanaeth, roedden ni oll yn gorfod canu’r anthem genedlaethol [Brydeinig], yn y 50au, Prydeinig oedd India’r Gorllewin... roedd yr addysg i gyd yn cael ei weinyddu gan Brydain.” “Fe ofynnais i wahanol bobl ac fe wnaethon nhw fy rhoi ar y trên ac fe gyrhaeddais i Gaerdydd.... Fe wnes i ymuno â’r Fyddin [chwardda]... yn y diwedd, fe ges i fy ngalw. Aethon ni i hyfforddi yn Maindy Barracks... anfonwyd ni i Libya... o Libya i Cyprus i fod yn llu cadw heddwch i gefnogi’r Heddlu... Fe gawson ein hanfon gartref, rhoddwyd offer i ni, gorffwys, ailhyfforddi, a’n hanfon wedyn i Berlin, yn ystod y Rhyfel Oer oedd hyn... [roeddwn i’n] aelod o’r gwarchodlu rhyngwladol, roedden ni’n cadw [Rudolph] Hess dan wyliadwraeth.... Wel, fi oedd yr unig berson Du yno, ond pan rydych chi’n dod ynghyd, rydych chi’n dod yn deulu, pawb yn dibynnu ar ein gilydd, felly dyma ni’n [dod yn] uned... Chwe blynedd [yn y Fyddin].”
“Fe adawais i’r Fyddin yn y 60au...”
“Ar ôl cyfnod, fe ges i waith ar y rheilffordd, fel porthor yng ngorsaf Caerdydd Canolog ar ddiwedd y 60au... yna fe wnes i geisio am swydd yrru, roeddwn i’n gyrru i’r rheilffordd, yna fe wnaeth Margaret Thatcher breifateiddio rhan o’r adran honno. Amser maith, tua ugain mlynedd [a dreuliodd yn gweithio ar y rheilffyrdd].”
“Roeddwn i’n tua 70... Elusen [o’r enw] ‘Scope’, elusen genedlaethol, [mae’n edrych ar ôl] pobl anabl. Tua deuddeg mlynedd fues i’n gweithio gyda nhw...”
“Rwy’n hoff o Gymru, wyddoch chi... mae’n bosib cael dau gartref... rwy’n meddwl [bod fy rhieni] wedi gwneud dewis da pan ddaeth fy nhad i Gymru.”