Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Morwyn Fair Blodau'r Eirin Gwlanog
FRAMPTON, George (1860-1928)
Cyflyrwyd arddull bersonol iawn Frampton gan ddylanwad Alfred Gilbert ac Edward Burne-Jones yn ogystal ŷ cherflunwyr symbolaidd y Dadeni yn yr Eidal a Ffrainc. Ei waith enwocaf yw'r ddelw o Peter Pan yng Ngerddi Kensington. Mae'r penddelw llyfn hwn yn gyfraniad diweddarach i'r thema o ben delfrydol y ferch, thema a fuasai'n bwysig i Frampton ers y 1890au.
(Nid oes modd darparu delwedd o'r gwaith celf hwn ar hyn o bryd. Mae hyn naill ai oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, neu oherwydd bod y ddelwedd yn aros i gael ei digideiddio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn.)
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.