Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Ceffyl yn Carlamu ar ei Droed Dde
Yma llwyddodd Degas yn gynnil i gyfleu ffroenau llydan, clustiau main a gwefusau agored ceffyl ar garlam. Mae'r cerflun, sy'n sefyll ar ei goesau ôl, fel petai'n llamu o'r llawr ac mae'r golau'n crychu ar y gwaith modelu bras yn ychwanegu bywiogrwydd. Roedd gan Degas ddiddordeb mawr mewn ceffylau rasio a byddai'n llunio modelau er mwyn deall eu ffurf a'u symudiadau cyn eu paentio.
Derbyniwyd gan Lywodraeth Ei Mawrhydi yn lle treth gan ystâd Lucian Freud a dyrannwyd i Amgueddfa Cymru, 2013