Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Heulwen yn Vernon
Mae'r gwaith hwn o tua 1920 yn darlunio gardd yr arlunydd o'i dy^ yn Vernonnet yn nyffryn Afon Seine. Hwyrach mai ei wraig Marthe yw'r wraig ar y chwith. Dan ddylanwad ei gyfaill Claude Monet, oedd yn byw gerllaw yn Giverny, paentiodd yr ardd droeon mewn goleuni ac awyrgylch gwahanol. Yn wahanol i’r Argraffiadwyr fodd bynnag, gweithiai o’i gof yn hytrach na pheintio’r gwrthrych yn uniongyrchol yn yr awyr agored. Gwelir nodweddion addurniadol a symbolaidd yn aml yn ei waith. Mewn fersiwn gynharach o'r olygfa hon (Orielau Sefydliad Courtauld, Llundain), a beintiwyd tua 1910, mae'r lliwiau'n dawelach. Yn ei flynyddoedd diwethaf yr oedd y berthynas rhwng tu mewn adeiladau a gerddi o ddiddordeb mawr i Bonnard. Prynodd Margaret Davies y gwaith hwn ym 1960.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.