Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Don Quixote yn darllen
DAUMIER, Honoré (1808-1879)
Yma, mae Don Quixote yn darllen y straeon archogaidd a fyddai'n ei ysbrydoli i ddilyn ei anturiaethau personol ei hun. Tu ôl iddo, mae ei forwyn a'r offeiriad yn edrych drwy'r drws, yn poeni am ei obsesiwn. Dyma un o blith nifer o olygfeydd yr artist o nofel enwog Cervantes. Roedd gwaith Daumier yn ddylanwadol dros ben, yn enwedig i Argraffiadwyr fel Edgar Degas, perchennog y llun hwn ar un adeg.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.