Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Tray
Yng nghanol yr hambwrdd hon mae darlun o’r Hen Blas yn Kelmarsh, wedi’i baentio mewn aur gydag arlliwiau brown a gwyrdd. Arysgrifiwyd arni’r geiriau 'The East View of the Old Hall at Kelmarsh in NORTHAMPTONSHIRE The seat of the late Thomas Hanbury Esq', sy’n awgrymu i’r hambwrdd gael ei chynhyrchu ar gyfer yr hynafiaethydd William Hanbury. Fe a ddymchwelodd yr Hen Blasty Jacobeaidd yn Kelmarsh a chyflogi John Gibbs i’w ailadeiladu rhwng 1728 a 1732 yn yr arddull Paladaidd ffasiynol. Seiliwyd yr olygfa ar engrafiad gan J. Mynde ar gyfer llyfr John Bridges History of Northamptonshire. Cyhoeddwyd y llyfr ym 1791 ond ym 1724 y cynhyrchwyd yr engrafiad gwreiddiol. Canfuwyd bod hambwrdd Amgueddfa Cymru yn un o set o dair yn dangos yr adeilad o onglau gwahanol, ac mae’r ddau arall yn dal i’w gweld ym Mhlas Kelmarsh.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.