Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Book
Llyfr cofiant a gyflwynwyd i Mr Hugh Richard Jones ar achlysur ei ymddeoliad o Amgueddfa Lechi Cymru (rhodd gan Amgueddfa Cymru). Mae'r llyfr cofiant yn cynnwys cerdd gan William Parry (Eos Alltwen) a chyfres o ddarluniau gan Olwen Hughes yn cyfleu lleoliadau pwysig ym mywyd Hugh Richard Jones. Mewn erthygl papur newydd yn trafod ymddeoliad Hugh Richard Jones, dywedir iddo "dderbyn llyfr yn adrodd ei hanes o'i ddyddiau ysgol hyd at ddiwrnod agoriadol yr Amgueddfa. Yr anrheg hwnnw yw ei drysor pennaf."