Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Gwen Ffrangcon Davies (1891-1992)
Roedd Ffrangcon-Davies yn seren chwedlonol ar lwyfannau Prydain yn ystod gyrfa a oedd yn rhychwantu 80 mlynedd. Cafodd ei geni yn Llundain i deulu o dras Gymreig, a gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf ar lwyfan yn A Midsummer Night’s Dream ym 1911. Ym 1924, cafodd ei galw yn Juliet orau ei chenhedlaeth, pan berfformiodd gyferbyn â John Gielgud yn rhan Romeo. Chwaraeodd Ffrangcon-Davies lawer o rannau yn nramâu Shakespeare ac ymddangosodd mewn nifer o gynyrchiadau radio a theledu. Cafodd ei gwneud yn Fonesig yr Ymerodraeth Brydeinig pan oedd yn 100 oed. Mae’r portread hynod annwyl hwn, a dynnwyd yn ei chartref, yn dangos ei dwylo enwog llawn mynegiant. Roedd partner hirdymor Gwen, sef Vanne – neu Margaretha ‘Scrappy’ van Hulsteyn – hefyd yn actores lwyddiannus ac yn aelod o’r elît cymdeithasol Affricaneraidd.