Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad clyweledol / Audio-visual recording: Len Lawrence
“Rydych chi’n ddioddef gwaith caled, a bydd pethau’n newid i’ch plant.”
Daeth Len Lawrence i Brydain o Jamaica yn 1960 fel saer coed hyfforddedig ac ymunodd ei wraig ag ef yn 1961. Ers hynny, mae wedi adeiladu a goruchwylio adeiladu nifer o strwythurau allweddol yn Ne Cymru, ac ef oedd fforman Du cyntaf y British Steel Corporation.
“Roeddwn i’n arfer gweld pobl eraill yn gweithio fel seiri, pan roeddwn i’n fachgen... a dyma fi’n dweud ’mod i am fod yn saer... felly dyma fi’n llwyddo i ddysgu crefft... Fues i yn America, a dois yn fy ôl, a phan ddois i’n ôl, fe benderfynais fynd i Loegr.”
“Wel, y llong... rwy’n cofio bod ar y llong, fel un o Jamaica, fe ddois i arfer gyda cael fy mwydo’n olaf, a dyma’r gŵr bonheddig hwn, yn eistedd ar y llong, ac meddai, ‘Na, naill ai ry’n ni’n cael gyntaf neu does neb yn cael eu bwydo o gwbl’. Ac fe wnaeth e gloi’r drws a gwrthod ei agor, nes iddyn nhw benderfynu ein bwydo ni gyntaf... ac yna fe benderfynodd ei newid. Dau fachan o Kingston benderfynodd newid pethau.”
“Y gwaith cyntaf gefais i fel saer, fe es i Gasnewydd a rhoi fy enw lawr draw ar y doc, lle’r oedden ni’n adeiladu’r gwaith trin dŵr... Y peth cyntaf oed cael gwaith... fe wnes i weithio yno am bedair wythnos, y cyflog oedd £4.19, yn y drydedd wythnos, dyma fi’n eistedd i lawr a wylo, ai dyma ddois i Loegr i weithio amdano?”
“Yn sefyll nawr yn Abertawe... fe wnes i [weithio ar] y bont i mewn i Abertawe... ac fe wnaethon ni ei newid o’r bont ddur i bont dros afon Tawe, 1961...”
1962 – 1982 - Y Mond, ailwampio - Pont y Gwaith Nicel, ailwampio - “Y llifddor cyntaf yn Nociau Abertawe, dyna’r adeg roedd Abertawe am gael llifogydd, ac roedd yn rhaid imi ddefnyddio fy ymdrechion i atal llifogydd…” - Traffordd Port Talbot - Pont Pontyberem - Ffordd osgoi Abercynffig - Gorsaf Bŵer Aberthaw