Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Catrin o Ferain, 'Mam Cymru' (1534/5-1591)
Yn y portread Tuduriaidd hwn, mae Catrin o Ferain yn dal blwch bach a allai fod yn gasged neu’n llyfr gweddi, gan anwesu penglog dynol â golwg ddwys ar ei hwyneb. Cafodd ei baentio yn 1568 yn yr Iseldiroedd. Nid oes llofnod arno, ond y gred yw mai arlunydd o’r enw Adriaen van Cronenburgh oedd yn gyfrifol am ei baentio. Mae Catrin yn gwisgo ffrog laes, ddu, felfed, gyda llewys ag arnynt batrwm o frodwaith aur cymhleth. Du oedd y lliw drytaf i’w brynu yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Mae ganddi gadwyn aur hir ysgafn sy’n ymestyn i lawr dros ei brest; a chadwyn aur drom am ei chanol ac mae’n ei chodi hi â’i llaw dde. Mae ei gwallt yn ôl ac wedi’i orchuddio gan benwisg ag iddi addurn aur. Dyna’r arfer ar gyfer gwragedd priod y cyfnod. Roedd ei gwisg goeth, ei chroen galar a’i haeliau cul yn hynod ffasiynol, ac mae’r llyfr gweddi’n cadarnhau ei duwioldeb. I lygaid cyfoes, mae’n ymddengos fel pe bai’n galaru efallai, ond mewn gwirionedd roedd hi newydd briodi Sir Rhisiart Clwch. Ef oedd yn gyfrifol am helpu i sefydlu’r Gyfnewidfa Frenhinol yn Llundain, ac roedd yn asiant i’r Frenhines Elizabeth y Cyntaf. Fe briododd Catrin bedair gwaith yn ei bywyd, ac roedd ganddi gymaint o blant ac wyrion, caiff ei hadnabod fel Mam Cymru hyd heddiw. Roedd penglogau yn elfen gyffredin iawn mewn portreadau yn y cyfnod hwn. Rhain oedd y dyfeisiau ‘memento mori’, i atgoffa pobl mai marw yw tynged pawb yn y pen draw. Ond mae esboniad arall i’r benglog sydd ychydig yn fwy difyr. Yn ôl yr hanes lleol, roedd gan Catrin fflyd o gariadon a phan fyddai’n blino arnynt byddai’n eu llofruddio a’u claddu yn y berllan ym Merain!