Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Harlem, Dinas Efrog Newydd
Wedi'i ysgrifennu ar gefn y gwaith yma mae: "Gofynnodd cyfarwyddwr cyntaf American Gangster i mi dynnu lluniau Harlem heddiw fel pe bai'n Harlem yn y 1960au i helpu'r criw i gael teimlad am y cyfnod amser roedd y ffilm wedi’i gosod ynddo. Ar y diwrnod cyntaf, dyma fi’n cerdded i lawr stryd a phasio tri dyn Affricanaidd-Americanaidd a oedd yn gwisgo capiau hosan tenau yn eistedd ar feranda. Dywedais helo gan ddal i gerdded. Dim ond ychydig droedfeddi oeddwn i wedi cerdded pan wnes i stopio a sylweddoli fy mod i'n gweld atgof. Yn y chwedegau, byddai dynion yn gorchuddio eu pennau gyda hosanau, ond ar yr adeg y gwnes i’r llun hwn, gallech brynu'r cap hosan o unrhyw siop gornel yn Harlem. Fe wnes i droi yn ôl ac egluro i'r dynion am y ffilm a'r hyn roeddwn i’n chwilio amdano. Gofynnais iddynt a allwn i dynnu llun ohonyn nhw, a dywedon nhw, 'Iawn’. Roedd hi’n ymddangos fel bod materion mwy difrifol yn mynd â'u sylw. Wnes i ddim gofyn, ond roeddwn i'n teimlo pwysau tlodi ar eu hysgwyddau oherwydd fy mod innau wedi cario'r pwysau hwnnw fy hun. Fe wnes i dynnu'r llun ac yna mynd yn fy mlaen i lawr y stryd. Hwn oedd y ffotograff cyntaf i mi ei wneud ar yr aseiniad hwnnw." — Eli Reed