Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Drwy ddefnyddio’r wefan hon rydych chi’n cytuno i dderbyn cwcis dan ein Polisi Cwcis.
Lleoliadau +
Amgueddfa Cymru
English
Fy nghyfrif
Casgliadau ac Ymchwil
Adrannau Casgliadau Arlein Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol

Teulu
Amgueddfa
Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Adrannau
  • Casgliadau Arlein
  • Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol
  • Erthyglau
  • Cymru Hynafol
  • Celf
  • Celf ar y Cyd
  • Hanes
  • Hanes Naturiol
  • Yr Amgueddfa ar Waith
  • Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru

Chwilio Uwch

Chwilio Uwch

Image filter options
Nôl i Ganlyniadau

Yr Is-Gadfridog Syr Thomas Picton (1758-1815)

SHEE, Sir Martin Archer (1769-1850)

Mae Thomas Picton – Teyrn Trinidad neu’r ‘Blood-Stained Governor’ i roi enwau eraill iddo – yn ffigwr dadleuol. Yn hanesyddol cafodd ei bortreadu fel arwr, ond mae ei gyfnod fel llywodraethwr Trinidad a’r modd yr oedd yn trin caethweision yn golygu y caiff ei gofio hefyd fel arweinydd arbennig o greulon.

Cafodd Picton ei enw da diolch i’w allu milwrol. Bu’n ymladd o dan Ddug Wellington yn ystod Rhyfel Iberia, ac yn ôl Wellington roedd yn ddyn ‘garw ac aflednais’, ond roedd ei ymddygiad wastad yn dda. Cafodd lwyddiant milwrol, ac ef oedd y swyddog uchaf ei reng i gael ei ladd wrth ymladd dros Brydain ym Mrwydr Waterloo, 1815.

Ar ôl ei farwolaeth câi ei ystyried yn arwr rhyfel. Codwyd cofeb iddo yng Nghadeirlan Sant Paul, Llundain ‘er coffâd i’r fuddugoliaeth odidog yn Waterloo’, ac adeiladwyd sawl cofeb gyhoeddus arall, yn cynnwys obelisg yng Nghaerfyrddin wedi’i dalu gyda chyfraniadau gan y cyhoedd. Yn ddiweddarach, cafodd ei goffáu fel un o ‘Arwyr Cymru’ gyda cherflun marmor yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Câi Picton, a anwyd yn Hwlffordd ym 1758, ei weld gan nifer fel arwr cenedlaethol i’w ddathlu.

Ond er bod cofebau cyhoeddus yn cael eu codi er mwyn cofio, eu gwir fwriad yn aml yw anghofio. Ac wrth i unigolion fel Thomas Picton gael eu clodfori, mae trais ac erchyllterau ein gorffennol trefedigaethol yn cael eu hanghofio.

Fe wnaeth Picton, fel llawer o rai eraill, elwa yn uniongyrchol o’r fasnach gaethion. Roedd hefyd yn enwog am ei driniaeth greulon o gaethweision a thrigolion eraill yn ystod ei gyfnod fel llywodraethwr Prydeinig cyntaf Trinidad.

Ym 1803 cafodd ei roi ar brawf yn Llundain am ganiatáu i Louisa Calderon, merch ‘mulatto’ rydd 14 oed oedd wedi’i chyhuddo o ddwyn, gael ei harteithio. Roedd Louisa wedi’i chrogi gerfydd ei garddwrn am bron i awr, gyda’i holl bwysau’n cael ei gynnal gan un peg pren – ffurf erchyll o arteithio gâi ei alw’n bicedu.

Yn ystod yr achos, cafodd Picton hefyd ei gyhuddo o arteithio, llosgi’n fyw a thorri pennau caethweision oedd wedi’u cyhuddo o ddewiniaeth. Roedd ei fyddin fechan yn defnyddio crogi ac anffurfio fel ffyrdd o gadw rheolaeth. Cafodd ei ganfod yn euog, ond cafodd y dyfarniad ei wrthdroi’n ddiweddarach, wrth i Picton ddadlau fod Trinidad o dan gyfraith Sbaen ar y pryd, oedd yn caniatáu arteithio.

Cafodd y portread hyd-llawn hwn o Picton yn ei wisg filwrol gan Martin Archer Shee ei roi i Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1907, blwyddyn ei sefydlu, felly mae’n un o’r paentiadau cyntaf i gael ei gynnwys yng nghasgliadau’r Amgueddfa. Credir ei fod wedi’i arddangos yn yr Academi Frenhinol ym 1816, flwyddyn ar ôl marwolaeth Picton.

I gael hanes llawn achos Louisa Calderon, a rôl Thomas Picton, gweler James Epstein, ‘Politics of Colonial Sensation: The Trial of Thomas Picton and the Cause of Louisa Calderon’, American Historical Review (Mehefin 2007).

Yr Is-Gadfridog Syr Thomas Picton (1758-1815)
Delwedd: © Amgueddfa Cymru
  Chwyddo / Rhagor o ddelweddau (3)  

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 473

Creu/Cynhyrchu

SHEE, Sir Martin Archer
Dyddiad:

Derbyniad

Gift, 1907
Given by the Earl of Plymouth

Mesuriadau

Uchder (cm): 214
Lled (cm): 137.1
Uchder (in): 84
Lled (in): 54

Techneg

oil on canvas
Techniques (fine art)
art dept - fine
Fine Art - painting

Deunydd

oil
canvas

Lleoliad

In store

Categorïau

Paentiad | Painting Celf Gain | Fine Art Gwisg filwrol | Military uniform Portread wedi'i Enwi | Named portrait Gwladychiaeth | Colonialism Caethwasiaeth | Slavery RHYFEL A GWRTHDARO | WAR AND CONFLICT
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Eitemau cysylltiedig

John Parry Jnr William
Celf

Portread o Fachgen, John Parry, Gardden (g.1777)

PARRY, William
NMW A 3981
Mwy am yr eitem hon
Les Fantasies
Celf

Les Misères et les Mal-heurs de la Guerre

CALLOT, Jacques
Henriet, Israel
Abbé de Marolles
NMW A 13440
Mwy am yr eitem hon
Thomas Evelyn Scott-Ellis, 8th Lord Howard de Walden (1880-1946)
Celf

Thomas Evelyn Scott-Ellis, 8th Lord Howard de Walden (1880-1946)

JOHN, Augustus (1878-1961)
NMW A 4913
Mwy am yr eitem hon
John Owen MP (c.1702-1754)
Celf

John Owen AS (bu f. 1754)

HIGHMORE, Joseph (1692-1780)
NMW A 489
Mwy am yr eitem hon

Map o'r Wefan

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Ymweld
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Blog
  • Ein Cefnogi
  • Siop
  • Llogi Cyfleusterau

Ein Hamgueddfeydd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymunwch â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Cymryd Rhan
  • Tanysgrifio i'n Cylchlythyr
  • Facebook
  • Instagram

Corfforaethol

  • Amdanom ni
  • Swyddi
  • Swyddfa'r Wasg
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol
  • Gweithio gydag eraill
  • Datganiad hygyrchedd
  • Polisi Cwcis
  • Hawlfraint
Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Facebook
  • Instagram
Rhif Elusen 525774
× ❮ ❯