Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Maestir school
Ysgol wledig fechan a godwyd ym 1880 gydag un ystafell ddosbarth, cyntedd a phortsh ochr. Fe'i codwyd o garreg glai o gwarrau lleol, a'i thoi â llechi o ogledd Cymru. Roedd yr iard wedi'i rhannu'n ddwy yn y cefn i wahanu'r bechgyn a'r merched ac roedd yr iard o flaen yr ysgol yn cael ei defnyddio ar gyfer 'dril' ac ymarfer corff.
Ar un adeg, roedd pwmp dŵr pren yng nghornel yr iard yn rhoi dŵr yfed ond, ar ôl canfod bod y dŵr yn amhur, bu'n rhaid cario dŵr i'r ysgol o fferm gyfagos. Ceir adeilad bychan yn cynnwys toiledau a storfa danwydd y tu ôl i'r ysgol. Roedd y portsh bychan o flaen yr ysgol yn ystafell gotiau ac yn arwain i'r ystafell ddosbarth.
Mae'r ysgol wedi'i gosod fel yr oedd tua 1900 pan oedd Miss Rachel Ann Thomas yn brifathrawes yno. Ceir yno ddesgiau o wahanol fathau ar gyfer disgyblion rhwng pump oed a phedair ar ddeg, pawb yn cael eu dysgu yn yr un ystafell.
Caewyd yr ysgol ym 1916 am fod nifer y disgyblion yn gostwng. Prynwyd yr adeilad gan Gyngor Sir Aberteifi a'i droi'n dŷ trwy rannu'r ystafell ddosbarth yn dair ystafell ar wahân. Tynnwyd yr ysgol i lawr a'i symud i'r Amgueddfa ym 1981.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.